Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi ym Mhowys

Hanes

Crewyd swydd yr Arglwydd Raglaw yn wreiddiol gan Harri VIII, pan oedd deilydd y swydd yn atebol i'r Goron ar gyfer cynnal cyfraith a threfn a chadw rheolaeth ar y milisia lleol ac unrhyw waith amddiffyn arall. Yn 1871, tynnwyd y cyfrifoldeb dros y milisia oddi wrth yr Arglwydd Raglaw.

Roedd gan Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn eu Rhaglawiaethau eu hunain tan i'r rhain gael eu huno yn dilyn creu Sir Powys yn 1974.

 

Penodiad a Dyletswyddau

Y Frenhines sy'n penodi Arglwydd Raglaw, ar gyngor y Prif Weinidog, i fod yn gynrychiolydd personol ar ei rhan ym mhob sir. Yr Arglwydd Raglaw, felly, yw'r ffigwr cyfansoddiadol uchaf ym mhob sir, ac wrth weithredu o fewn y swydd swyddogol honno, mae gan yr Arglwydd Raglaw flaenoriaeth dros bawb arall. (Pan fydd gwraig yn dal y swydd, "Arglwydd Raglaw" fydd y teitl yr un fath.)

Y prif ddyletswyddau yng Nghymru, yn ymarferol, yw:

Trefnu ymweliadau gan y Teulu Brenhinol a'u hebrwng fel sy'n addas. Dylid cyfeirio pob cais am ymweliad o'r fath at yr Arglwydd Raglaw yn y lle cyntaf.

Cyflwyno Gwobrwyon a Medalau ar ran Ei Mawrhydi, a dilysu a chyflwyno enwebiadau ar gyfer Gwobrau o'r fath, fel sy'n briodol, mewn cysylltiad â'r Swyddfa Gymreig a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Arwain yr Ynadaeth leol fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Ynadon Heddwch (a'u penodi) mewn cysylltiad ag Adran yr Arglwydd Ganghellor, a dyletswyddau "Ceidwad y Rhôl" (Custos Rotulorum).

Cysylltu â chefnogi unedau rheolaidd a thiriogaethol lleol y Lluoedd Arfog yn y Sir. (Mae gan yr Arglwydd Raglaw hefyd reng Uwchfrigadydd neu reng gyfatebol y Gwasanaethau yn y sir wrth ymgymryd â dyletswyddau o'r fath.)

Annog amrywiaeth o weithgareddau gwasanaethau dinesig a gwirfoddol yn y sir, a dilysu a chefnogi prosiectau lleol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.

Argymell enwau ar gyfer gwahoddiadau i ddigwyddiadau Brenhinol megis partion gardd blynyddol Ei Mawrhydi ym Mhalas Buckingham neu leoedd eraill, ac ar ymweliadau brenhinol.

Mae'r Arglwydd Raglaw yn penodi Dirprwy Arglwydd Raglaw o blith y Dirprwy Raglawiaid. Mae nifer y Dirprwy Raglawiaid yn dibennu ar faint y boblogaeth a pha mor addas ydynt i gynorthwyo'r Arglwydd Raglaw yn y gwaith uchod, am uchafswm o 10 mlynedd.

Yr Arglwydd Raglaw Presennol

Yr Anrhydeddus Mrs Legge-Bourke LVO

Yr Anrhydeddus Mrs Legge-Bourke LVO
Penmyarth
Glanusk Park
CRUGHYWEL
Powys
NP8 1LP

Swyddfa:
Rhif Ffôn: 01873 810414
Ffacs: 01873 811385

 

Dirprwy Arglwydd Raglaw Powys

Yr Arglwydd Davies DL
Plas Dinam
Llandinam
Powys
SY17 5DG

Dirprwy Raglawiaid

Rhanbarth Brycheiniog

William Legge-Bourke Esq. DL
Cyrnol Timothy Van-Rees, MBE (Mil), DL, ED, BA Law
Arglwydd Livsey o Dalgarth CBE, DL

Rhanbarth Maesyfed

Hubert Watkins Esq., JP, MA, DL
Yr Anrh. Robin Gibson-Watt, JP, DL
Mrs. Susan Bowen, MA, DGGB, DL

Rhanbarth Maldwyn

William Corbett-Winder Esq., DL
John Vaughan Esq., DL
Peter English Esq., JP, DL
Mrs. Anne Jones JP, DL

Clerc i'r Rhaglawiaeth

Mr Mark Kerr

Clerc Gweithredol i'r Rhaglawiaeth (y dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau ati)

Mrs. Julie Shaw
Swyddfa'r Rhaglawiaeth
Neuadd y Sir
Llandrindod 
Powys
LD1 5LG

Ffôn: 01597 826082

Cynhelir gwefan yr Arglwydd Raglaw gan:

Julie Shaw, Adran y Prif Weithredwr, Cyngor Sir Powys.

Ebost: juliesh@powys.gov.uk